Darparu gwasanaethau Acas yn Gymraeg

Gallwch gysylltu â ni i ofyn am gymodi, hyfforddiant a chyngor am broblem yn y gwaith.

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:

  • cymodi’n gynnar gyda chymodwr sy’n siarad Cymraeg
  • cyrsiau hyfforddi a gynhelir drwy gyfrwng y Gymraeg
  • galwad yn ôl gan gynghorwr sy’n siarad Cymraeg er mwyn trafod problemau yn y gwaith
  • cyfieithu dogfennau a chyngor Acas

Gofyn am ein gwasanaethau Cymraeg

 Gallwch gysylltu â ni drwy:

  • anfon e-bost atom llinellgymorthacas@acas.org.uk – gan gynnwys rhif ffôn ar gyfer galwad yn ôl
  • ein ffonio ni ar 0300 123 1150, rhwng 9yb a 5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener